
‼️ Gwybodaeth bwysig oddi wrth Arolygiaeth Gofal Cymru ‼️
Cadwch lygad barcud am eich llythyrau oddi wrth yr Arolygiaeth, ddarparwyr gofal plant a chwarae! Bydd y rhain yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch defnyddio’r Arolygiaeth Ar-lein (AGC Ar-lein) i gyflwyno eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.
Bydd y Datganiad AR AGOR ar 6 Ionawr 2020 ac yn cau ar 4 Chwefror 2020. Mae gofyn i bob darparydd gofal plant a chwarae gwblhau Datganiad, mae hyn yn rhan o’r gasglu’r data blynyddol.
Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yma i gefnogi aelodau yn ystod y broses hon. Cofiwch gysylltu â’ch swyddfa ranbarthol agosaf i gael cymorth.